Cefndir

1.    Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn trwy ddwyn sylw at y ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

2.    Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd:

-        Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru;

-        Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

4.    Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gymeradwyo Cynlluniau Iaith Gymraeg a baratoir gan sefydliadau yn unol â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac am osod Safonau ar sefydliadau yn unol â darpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Nid yw’n rhan o swyddogaethau statudol y Comisiynydd i gytuno neu gymeradwyo cynnwys Cynllun Ieithoedd Swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawaf y cyfle i fynegi barn ar gynnwys y cynllun a cyfrannir y sylwadau isod yn unol â rôl y Comisiynydd dan Adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i roi cyngor a chyflwyno sylwadau i unrhyw berson.

Cyd-destun

5.    Ystyriaf Gynllun Ieithoedd Swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynllun hollbwysig, nid yn unig wrth osod polisïau ar wasanaethau i’w darparu yn Gymraeg gan y Cynulliad ond hefyd wrth sicrhau twf mewn defnydd y Gymraeg o fewn prif gorff democrataidd Cymru. Credaf bod gweld a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n gyson ar lawr y Senedd ac yn nhrafodaethau’r pwyllgorau yn hollbwysig i statws y Gymraeg a bod hynny’n annog ac yn awdurdodi eraill i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn bywyd cyhoeddus yn Nghymru. O ystyried hynny, croesawaf fwriad y Comisiwn i gyflwyno cynllun newydd sy’n adeiladu ar y cynllun blaenorol a’r cyfle a gynigir gan yr ymgynghoriad hwn i bersonau yng Nghymru gyfrannu at ddatblygiad y cynllun.

Cynnwys y cynllun

6.    Ym mis Rhagfyr ymatebais i ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad ar ddrafft o Gynllun Ieithoedd Swyddogol newydd. Nodais groeso i’r cynllun sy’n adeiladu ar y cynllun blaenorol drwy gynnwys nifer o ddarpariaethau newydd a chadarnhaol, er enghraifft mewn perthynas â defnydd y Cynulliad o dechnoleg gwybodaeth wrth gynyddu defnydd y Gymraeg. Cynigiais i’r Comisiwn rhai gwelliannau y gellid eu gwneud i’r cynllun drafft, er enghraifft er mwyn sicrhau cysondeb gyda defnydd y Gymraeg gan sefydliadau sy’n destun Safonau’r Gymraeg. Atodaf y sylwadau anfonwyd i’r Comisiwn bryd hynny.

7.    Yn ogystal â’r sylwadau gynigiwyd i’r Comisiwn bryd hynny, hoffwn ddwyn sylw’r pwyllgor at un rhan penodol o’r cynllun drafft. Wrth drafod ymgynghoriadau a gynhelir gan bwyllgorau, noda gynllun 2013 y canlynol:

Bydd pwyllgorau yn gofyn o’r cychwyn cyntaf am ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau gan sefydliadau allanol a thrydydd parti y bwriedir eu cyhoeddi a/neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn ddwyieithog.... Pan nad yw’n bosibl sicrhau dogfennau gan sefydliadau allanol a thrydydd parti yn y ddwy iaith, rydym yn eu cyhoeddi yn yr iaith y’u cyflwynwyd, gan nodi y daeth y dogfennau i law yn yr iaith honno yn unig. Caiff dogfennau Cymraeg eu cyfieithu i’r Saesneg at ddefnydd yr Aelodau.

Mae’r paragraffau uchod wedi eu cynnwys air am air yn y cynllun drafft newydd, heblaw am y frawddeg olaf sydd wedi ei hepgor o’r cynllun newydd. Hyderwn nad yw hynny’n golygu na fydd y Cynulliad bellach yn cyfieithu i’r Saesneg ymatebion a gyflwynir yn Gymraeg yn unig mewn ymateb i ymgynghoriadau’r pwyllgorau. Mae’n gwbl rhesymol i’r Cynulliad annog personau eraill i gyflwyno ymatebion dwyieithog i ymgynghoriadau’r pwyllgorau. Ar yr un pryd, rhaid derbyn y gall fod yn anodd i rai personau wneud hynny ac mae’n anochel y bydd rhai yn cyflwyno eu hymatebion mewn un iaith yn unig. Lle cyflwynir ymateb i ymgynghoriad yn Saesneg yn unig, bydd holl aelodau’r pwyllgorau yn medru darllen a deall yr ymateb hwnnw. Yr unig ffordd o sicrhau y gall holl aelodau pwyllgorau hefyd ystyried ymatebion a dderbynnir yn Gymraeg yn unig, a thrwy hynny sicrhau tegwch i’r rheini sy’n cyflwyno ymatebion yn Gymraeg yn unig, yw parhau i gyfieithu’r ymatebion hynny i’r Saesneg. Hyderaf felly nad yw hepgor y frawddeg uchod o’r cynllun drafft newydd yn golygu y bwriedir rhoi’r gorau i gyfieithu ymatebion Cymraeg i’r Saesneg.

8.    Hoffwn nodi fy ngwerthfawrogiad bod fy swyddogion wedi cael cyfle’n ddiweddar i drafod ein sylwadau ar y cynllun drafft gyda swyddogion y Cynulliad. Deallaf bod swyddogion y Cynulliad wedi derbyn yr holl sylwadau a gynigiwyd gennym a’u bod yn bwriadu ymgorffori’r newidiadau a gynigiwyd gennym i ddrafft terfynol y cynllun.

Hyderaf bydd y sylwadau sydd uchod ac ynghlwm o ddefnydd i’r pwyllgor wrth iddo graffu ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft. Os yw’n fwriad gan y pwyllgor i gyhoeddi ei sylwadau ar y cynllun byddwn yn ddiolchgar am dderbyn copi ohonynt.